Mae Canolfan Gerdd William Mathias yn croesawu'r ffaith bod Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn cynnal yr Ymchwiliad i Ariannu Addysg Cerddoriaeth a Mynediad Ati a byddem yn hapus iawn i gyfrannu i'r ymchwiliad wrth iddo fynd yn ei flaen.

Yn ychwanegol i'r pwyntiau a nodir, awgrymwn y gellid hefyd ystyried :

1.   y llwybrau, cyfleoedd a chefnogaeth sydd ar gael i'r disgyblion sy'n dangos talent arbennig a'r awydd i fynd ymlaen i astudio ymhellach e.e mynediad at wersi arbenigol ychwanegol y tu hwnt i'r hyn y gellir ei gynnig o fewn gwersi peripatetig o fewn yr ysgol.

2.   Sut y gall sefydliadau cerdd sydd ddim yn rhan o'r gwasanaethau cerdd sirol gynorthwyo i ddatblygu a chyfoethogi y ddarpariaeth gan greu gwell cyswllt rhwng y sefydliadau rhain a’r gwasanaethau cerdd sirol.

Braf fyddai gweld Llywodraeth Cymru yn gwneud datganiad clir fod gan pob plentyn yng Nghymru hawl i addysg gerddorol.

Edrychwn ymlaen at weld y cylch gorchwyl terfynol.

Dyma ychydig o gefndir ein sefydliad ni er gwybodaeth :

Mae Canolfan Gerdd William Mathias (CGWM) yn gwmni cyfyngedig trwy warant ac yn elusen gofrestredig. (Mae'n gwmni cwbl annibynnol i Gwasanaeth Ysgolion William Mathias sy'n darparu'r gwersi cerddoriaeth o fewn ysgolion yng Ngwynedd a Môn).  Sefydlwyd CGWM  i wella’r mynediad i hyfforddiant cerddorol o’r safon uchaf i bobl o bob oed (ond yn arbennig pobl ifanc) a chynnig rhagor o waith i gerddorion llawrydd sy’n byw yng Ngogledd Cymru.

Mae oddeutu 350 o fyfyrwyr yn amrywio rhwng  5 a 80+ oed yn derbyn hyfforddiant un i un yn y Ganolfan (y tu allan i oriau ysgol) gyda 45 o diwtoriaid proffesiynol, llawrydd. Yn ogystal, mae cannoedd yn rhagor yn mynychu ein prosiectau grŵp sy’n cynnwys dosbarthiadau theory a sain clust, Côr Siambr Ieuenctid, Ensembles Siambr a chynllun ‘Camau Cerdd’ i blant 6mis – 7oed. Mae CGWM hefyd yn trefnu cyngherddau a gwyliau cerdd uchelgeisiol gan gynnwys: Gŵyl Delynau Rhyngwladol Cymru (2006, 2010 a 2014) sy’n denu dros 100 o delynorion o dros 30 o wledydd i gystadlu a pherfformio yng Nghaernarfon a Gŵyl Biano Rhyngwladol Cymru (2016). Mae'r gwyliau rhain yn ehangu gorwelion perfformwyr ifanc a rhoi cyfle iddynt ddod i gysylltiad ag artistiaid rhyngwladol.

Dros y blynyddoedd, mae llawer un sydd â’u bryd ar fynd ymlaen gyda gyrfa mewn cerddoriaeth wedi teithio cryn bellter i dderbyn hyfforddiant arbenigol yn ein Canolfan (e.e. un disgybl yn teithio 45 milltir un ffordd ddwy waith yr wythnos a dwy delynores arall yn teithio dros 80 milltir un ffordd yn rheolaidd). Mae nifer o'n cyn-fyfyrwyr bellach yn astudio ym mhrif Golegau Cerdd Prydain neu yn gweithio fel cerddorion proffesiynol.

Fel Canolfan sy’n canolbwyntio yn bennaf ar ddatblygu sgiliau a phrofiadau cerddorion ifanc cyn iddynt fynd ymlaen i sefydliad Addysg Uwch, credwn bod mwy o fuddsoddiad ar y lefel hon (sef cyn 18 oed) ar gyfer y myfyrwyr talentog yn gwbl hanfodol er mwyn datblygu eu sgiliau i’r eithaf. Gyda’r buddsoddiad cywir, gallai nifer o fyfyrwyr elwa o raglen mwy dwys o astudiaeth yn yr oedran uwchradd gan arwain at gynnydd yn y rhai sy’n mynd ymlaen i astudio ar lefel Conservatoire.

Mae diogelu’r ddarpariaeth o fewn ysgolion  yn hanfodol os am sicrhau bod talent yn cael ei ddarganfod a phlant o bob cefndir cymdeithasol yn cael yr un  cyfle i ddatblygu i’w llawn botensial cerddorol. Mae gennym sawl enghraifft yn CGWM o fyfyrwyr sydd wedi cael y cyfle cyntaf yn yr ysgol ac wedi dod i dderbyn hyfforddiant mwy dwys yn CGWM cyn mynd ymlaen wedyn i astudio mewn Coleg Cerdd. Er mwyn sicrhau parhad a ffyniant y diwydiannau creadigol a diwylliannol yng Nghymru rhaid sicrhau bod y buddsoddiad yn gyson ar bob cam o’r ysgol ar draws Cymru.

I gloi, byddem yn hapus iawn i weld canolfannau o ragoriaeth fel Canolfan Gerdd William Mathias yn cael eu datblygu mewn trefi a dinasoedd eraill ledled Cymru i roi cyfle i blant a phobl o bob oed i wella’u sgiliau cerddorol a chyfoethogi’u cymunedau.